Ydych chi'n ystyried o ble mae'ch bwyd yn dod? Mae'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta yn cael effaith fawr ar ein planed. Mae ffermwyr yn edrych ar ffyrdd o sicrhau y gall y bwyd maen nhw'n ei gynhyrchu barhau i gael ei gynhyrchu am flynyddoedd i ddod wrth edrych ar ôl yr amgylchedd ar yr un pryd.
Adnoddau dysgu
Download allBlynyddoedd 1 & 2
Ydy’r ffordd mae bwyd yn edrych yn effeithio ar sut mae’n blasu?
Blynyddoedd 3 i 6
Sut allwn ni sicrhau bod y bwyd rydyn ni'n ei fwyta yn ein cadw ni a'n hamgylchedd yn iach?
Blynyddoedd 7 i 9
Ymchwilio i oddefiant halen planhigion pys
Sut fydd eich cais yn edrych?
Chi sydd i benderfynu sut olwg sydd ar eich cyflwyniad. Mae syniadau yr ydym yn disgwyl eu gweld yn cynnwys:
- Fideo yn dangos esboniad o'r dyluniad, unrhyw ymchwil sydd wedi'i wneud ac unrhyw broblemau penodol y mae'r dyluniad yn eu datrys
- Darluniau - naill ai wedi'u tynnu â llaw neu'n ddigidol
- Hysbyseb neu ‘pitch’ o'r dyluniad terfynol
- Cyflwyniad PowerPoint neu Prezi
- Ffotograffau o fodelau/prototeipiau wedi'u gwneud gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu, teganau adeiladu neu gitiau roboteg
Rhowch rwydd hynt i’ch dychymyg gan ein bod yn annog creadigrwydd! Gallwn dderbyn y mwyafrif o fathau o ddogfennau, delwedd a fideo.