Yn ogystal â chynhyrchu’r bwyd rydych yn ei fwyta, mae ffermwyr Prydain eisoes yn cynhyrchu digon o drydan i bweru tua 10 miliwn o gartrefi. Mae ffermwyr yn cynhyrchu ynni o ystod eang o ffynonellau gan gynnwys solar, gwynt, biomas a threuliad anaerobig. Mae hyn yn bwysig iawn gan mai llosgi tanwydd ffosil ar gyfer trydan, gwres a chludiant yw un o achosion mwyaf newid yn yr hinsawdd.
Adnoddau dysgu
Download allBlynyddoedd 1 & 2
Ble mae'r lleoliad gorau ar gyfer panel solar?
Blynyddoedd 3 i 6
Ydy nifer a maint y llafnau ar dyrbin gwynt yn effiethio faint o egni mae'n ei gynhyrchu?
Blynyddoedd 7 i 9
Ymchwilio i wellt fel biodanwydd
Sut fydd eich cais yn edrych?
Chi sydd i benderfynu sut olwg sydd ar eich cyflwyniad. Mae syniadau yr ydym yn disgwyl eu gweld yn cynnwys:
- Fideo yn dangos esboniad o'r dyluniad, unrhyw ymchwil sydd wedi'i wneud ac unrhyw broblemau penodol y mae'r dyluniad yn eu datrys
- Darluniau - naill ai wedi'u tynnu â llaw neu'n ddigidol
- Hysbyseb neu ‘pitch’ o'r dyluniad terfynol
- Cyflwyniad PowerPoint neu Prezi
- Ffotograffau o fodelau/prototeipiau wedi'u gwneud gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu, teganau adeiladu neu gitiau roboteg
Rhowch rwydd hynt i’ch dychymyg gan ein bod yn annog creadigrwydd! Gallwn dderbyn y mwyafrif o fathau o ddogfennau, delwedd a fideo.